Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (246) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl.
Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Pwynt o Drefn
Cododd Dafydd Elis-Thomas bwynt o drefn ynghylch yr eitem flaenorol, gan ofyn a oedd hi’n briodol i Aelod Cynulliad gyfeirio at gorff cyhoeddus ‘fel y ci sy’n troi’n ôl at ei gyfog’. Dyfarnodd y Dirprwy Lywydd nad ei le ef oedd cyfyngu ar ddadl frathog, ond nad oedd yn ymadrodd y byddai ef ei hun wedi’i ddefnyddio mewn lle cyhoeddus.
3 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch Atgyfeirio’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) i’r Goruchaf Lys
Dechreuodd yr eitem am 14.34
4 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Cyflwyno'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 14.58
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Datganoli trethi yng Nghymru - Ymgynghoriad ar Dreth Trafodiad Tir
Dechreuodd yr eitem am 15.24
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn: Lle i’w alw’n gartref? Adolygiad o ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 16.26
7 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio - diwygiad mewn perthynas â Gorchymyn Tai (Blaendaliadau Tenantiaeth) (Gwybodaeth Ragnodedig) 2007 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Memorandwm Rhif 6)
Dechreuodd yr eitem am 17.03
NDM5689 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy'n ymwneud â Gorchymyn Tai (Blaendaliadau Tenantiaeth) (Gwybodaeth Ragnodedig) 2007 i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddu Difrifol - diwygiad mewn perthynas â chyfathrebu'n rhywiol â phlentyn (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 3)
Dechreuodd yr eitem am 17.04
NDM5690 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â'r drosedd o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
9 Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015
Dechreuodd yr eitem am 17.13
NDM5693 Huw Lewis (Merthyr Tudful)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015
Dechreuodd yr eitem am 17.13
NDM5694 Huw Lewis (Merthyr Tudful)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
11Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.27
NDM5691 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cynllunio (Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
12Penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Cynllunio (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 18.22
NDM5692 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Cynllunio (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
13Cyfnod pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.23
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 11 Chwefror 2015